Jump to Page Content
CHWILIO:

RG Cynllun Cyhoeddiadau

Lluniwyd y cynllun cyhoeddiadau hwn o dan Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Bwrieidr i fod o help ichi wrth adnabod a chael gwybodaeth a gyhoeddir yn rheolaidd gan olwg ar ynni. Pwrpas y cynllun cyhoeddiadau hwn yw gosod allan:

  • Dosbarthiadau o wybodaeth yr ymrwymiwn i’w cyhoeddi fel mater o arfer
  • Sut y cyhoeddir y wybodaeth hon
  • A ydyw’r wybodaeth hon ar gael yn rhad ac am ddim neu am daliad

Mae copïau printiedig o’r cyhoeddiad hwn ar gael gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn ymateb yn adeiladol i geisiadau am ddarpariaeth o’r cynllun mewn ieithoedd eraill. Mae fersiynau llythrennau mawr, Braille a thâp clywed o’r cyhoeddiad hwn ar gael ar gais.

Cwmpas y cynllun cyhoeddiadau

Oni nodir fel arall yn y cynllun hwn:

  • Cyhoeddir y dosbarthiadau o wybodaeth yr ymrwymiwn i’w cyhoeddi ar y wefan hon
  • Mae cyhoeddiadau printiedig ar gael yn uniongyrchol gan olwg ar ynni
  • Mae’r wybodaeth sydd yn destun y cynllun hwn ar gael yn rhad ac am ddim
  • Nid oes ymrwymiad i gyhoeddi gwybodaeth a ddelir gan olwg ar ynni am yn fwy na 3 blynedd

Cael cyhoeddiadau

Lle bynnag y mae hynny’n bosibl, rydym wedi sicrhau bod cyhoeddiadau golwg ar ynni ar gael ar y wefan hon. Os bydd angen cyhoeddiad printiedig neu argraffiad o’r wefan, cysylltwch â’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth ym mhencadlys golwg ar ynni, neu yn eich swyddfa genedlaethol neu ranbarthol agosaf, a fydd yn rhoi eich cais ymlaen i’r Pencadlys.

Polisi taliadau

Cyhoeddir gwybodaeth yn rhad ac am ddim (h.y. ni chodir tâl gennym ni, er y byddai rhaid i’r defnyddiwr gwrdd ag unrhyw codiannau ei ddarparwr gwasanaeth Rhyngrwyd, costau argraffu personol ac yn y blaen).

Hawlfraint

Mae’r hawlfraint yn y defnyddiau a restrir yn y cynllun cyhoeddiadau hwn yn eiddo golwg ar ynni oni nodir fel arall. Nid yw rhyddhau dogfennau o dan Ryddid Gwybodaeth yn rhoi o reidrwydd i’r derbyniwr yr hawl ail-ddefnyddio’r dogfennau mewn ffordd a fyddai’n torri hawlfraint, er enghraifft trwy wneud copïau lluaws, cyhoeddi a rhyddhau copïau i’r cyhoedd.

Mae hawl atgynhyrchu detholiadau byr o’r defnyddiau o dan ddarpariaethau triniaeth deg y Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adrannau 29 a 30) at ddibenion ymchwil at bwrpasau anfasnachol, astudiaeth breifat, beirniadaeth, arolygu a chroniclo newyddion.

Cysylltwch â’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth am fanylion o’r trefniadau am ail-ddefnyddio’r defnyddiau sydd yn eiddo golwg ar ynni.

Dylid wneud cais am awdurdod i ail-ddefnyddio defnyddiau hawlfraint nad sydd yn eiddo golwg ar ynni gan deiliaid yr hawlfraint dan sylw. Os yn ansicr ynglŷn â hyn, dylai defnyddwyr gysylltu â ni yn gyntaf.

Cyfrifoldeb am y cynllun cyhoeddiadau

Mae’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y Cynllun Cyhoeddiadau, a dylid anfon unrhyw sylwadau ar y cynllun at hwnnw.

Cwynion am y cynllun cyhoeddiadau

Os bydd gennych unrhyw gŵynion ynglŷn ag argaffaeledd cyhoeddiadau a enwir yng nghynllun cyhoeddiadau golwg ar ynni neu fynediad i wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, dylech gyfeirio eich cwyn i’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yng ngolwg ar ynni. Os byddwch yn anfodolon o hyd ar y ffordd y triniwyd eich cwyn, mae gennych chi’r hawl i fynd â’ch cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae gwybodaeth bellach am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael a wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (www.informationcommisioner.gov.uk ).