Jump to Page Content
CHWILIO:

Rhoi Defnyddwyr yn Gyntaf

Fel llygad barcud nwy a thrydan annibynnol, mae ein cennad yn un syml: cael y fargen orau y gallwn ar gyfer defnyddwyr ynni.

Mae hyn yn cynnwys cynnig cyngor amhleidiol yn rhad ac am ddim - a hyd yn oed ymladd eich achos chi os ydych yn teimlo ichi gael eich trin yn anheg gan eich cyflenwyr nwy neu drydan. Mae ein cyfoeth o brofiad yn golygu bod gennym ddealltwriaeth go iawn o’r testunau sydd yn effeithio ar ddefnyddwyr a’n bod mewn modd i’ch helpu chi i gael gwell wasanaeth neu i gael iawn pan aiff rhywbeth o’i le.

Rydym yn llais nerthol dros y defnyddwyr a byddwn yn ei ddefnyddio i ymgyrchu dros well fargen i gartrefi a busnesau fel defnyddwyr ynni. Yn bennaf oll, rydym yma i helpu. Os ydych yn cael problemau gyda’ch cwmni nwy neu drydan, ewch yn syth at y dudalen "cysylltu â ni". Gallwn wneud gwahaniaeth - ar eich cyfer chi.

Darganfyddwch sut y bydd golwg ar ynni’n gyrru ymlaen y testunau sydd o bwys i ddefnyddwyr yn 2008.


A Social Responsibility the energywatch consultation on the nature of social tariffs in the energy market and recommendations.

Mae golwg ar ynni wedi cyhoeddi ei adroddiad ymgynghorol cyflawn ar dariffau cymdeithasol a chrynodeb gweithredol sydd yn dangos sut y gallai tariffau gostyngiedig helpu codi miliynau o ddefnyddwyr allan o dlodi ynni. Ceir ymatebion eraill i’r ymgynghoriad o dan ein Cyhoeddiadau/Ymgynghoriad sadran.


polisi cyfrinachedd ac ymwadiad gwefan golwg ar ynni

 

Nifer y bobl a helpwyd

5307556

Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0