Jump to Page Content
CHWILIO:

Tariffau Safonol

  Dim tâl sefydlog Tariff oriau trai Gostyngiad Debyd Uniongyrchol Gostyngiad tanwydd deuol Gostyngiad talu prydlon Cysoni mesuryddion trydan talu-ymlaen-llaw Cysoni mesuryddion nwy talu-ymlaen-llaw

British Gas

   

EDF Energy

 

EBICo

 

 

Npower

     

E.ON Energy

 

Scottish and Southern Energy *

 

Scottish Power **

 

*

* Mae Scottish and Southern Energy yn cynnwys brandiau masnachu Scottish Hydro Electric, Southern Electric, SWALEC a Thrydan a Nwy Iwerydd.

** Cysoni msuryddion talu ymlaen llaw Nwy Scottish Power ond o fewn eu rhanbarthau cyflenwi Manweb a Scottish Power.

Dim tâl sefydlog: Nid yw’r tariff hwn yn cynnwys tâl sefydlog dyddiol. Codir tâl am yr ynni a ddefnyddir yn unig.

Di-frig: Dyma dariff sydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â mesurydd dwy gyfradd sydd yn defnyddio’r rhan fwyaf o’u hynni yn ystod y nos i gynhesu’r ty a/neu twymo’r dwr. Mae nifer o amrywiadau, y mwyaf cyffredin mesurydd Economy 7 lle mae’r gyfradd am ddefnyddio trydan yn ystod cyfnod o saith awr yn y nos yn rhatach o lawer nag yn ystod y dydd.

Mae pob cyflenwr yn cynnig Tariffau Economy 7. Mewn ardaloedd penodol, mae’n bosibl y bydd Economy 10 ar gael: mae hyn yn cynnig tair gwahanol gyfradd trwy gydol y dydd.

Gostyngiad Debyd Uniongyrchol: Mae’n bosibl y bydd cyflenwyr yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sydd yn talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, gan fod eu cyfrifon yn rhatach i’w gweinyddu.

Gostyngiad Tanwydd Deuol: Mae’n bosibl y bydd cyflenwyr yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sydd yn prynu eu trydan a’u nwy ill dau gan yr un cwmni.

Gostyngiad talu’n brydlon: Mae’n bosibl y bydd cyflenwyr yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sydd yn talu eu biliau chwarterol yn brydlon.

Cysoni mesuryddion talu ymlaen llaw: Mae rhai cyflenwyr wedi gwneud y prisiau a godir i gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw yn gyfartal â’r hyn a godir ar bobl sydd yn talu’n chwarterol trwy arian, siec neu orchymyn sefydlog. Gall defnyddwyr mesuryddion talu ymlaen llaw arbed arian trwy newid at un o’r cyflenwyr hyn. Mae prisiau trydan mesuryddion talu ymlaen llaw yn amrywio yn ôl y rhanbarth ddosbarthu, er bod prisiau nwy talu ymlaen llaw yn gyson ledled Prydain i bob cyflenwr, ag eithrio npower a Scottish Power sydd yn amrywiol.

Os hoffech ddarganfod mwy am dariff penodol neu’r gostyngiadau sydd ar gael, dylech gysylltu â’ch cyflenwyr yn unongyrchol.