Cyflenwyr |
Cynigion Prisiau Sefydlog/ nenfydol |
Tariffau Ar-lein |
Tariffau arbenigol yn anelu at grwpiau penodol |
Cynlluniau Cydnawsedd neu Ffyddlondeb e.e. Milltiroedd Awyr, Pwyntiau Neithor |
|---|---|---|---|---|
British Gas |
Fixed Price September 2011 |
Ynni Click |
Tariffau Hanfodion 1 |
Dim |
EDF Energy |
Price Protection October 2009 |
Ynni Ar-lein |
Cymorth Ynni |
Pwyntiau Neithdar |
EBICo |
Dim |
e-biliau |
EQUIGAS / EQUIPOWER 2 |
Dim |
Npower |
Dim |
Arwyddo Ar-lein |
Dim |
Dim |
E.ON Energy |
Dim
|
Cynilion Ychwanegol Ynni Ar-lein |
Age Concern / Staywarm 3 |
Pwyntiau cerdyn Clwb Tesco |
Scottish and Southern Energy* |
Dim |
A.E.G Ar-lein |
Care energyplus 4 |
energyplus 5 Pulse /Argos / Milltiroedd Awyr / RSPB / Sefydliad Calonnau Prydain |
Scottish Power |
Dim
| Ynni AR-lein Gostyngedig |
Dim |
Dim |
*Mae Scottish and Southern Energy yn cynnwys y brandiau masnachu Scottish Hydro Electric, Southern Electric, SWALEC a Nwy a Thrydan Iwerydd.
1 Tariff Hanfodolion Nwy Prydain yw tariff cymdeithasol mwyaf Prydain, gyda’r nod ar leihau biliau nwy a thrydan i 750,000 o’u cwsmeriaid mwyaf clwyfadwy. Mae’r Tariff Hanfodolion yn cynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid clwyfadwy, yn enwedig y rhai sydd yn defnyddio mesuryddion Ynni Talu Wrth Fynd.
2 Nid oes unrhyw codiannau sefydlog i dariffau EQUIGAS ac EQUIPOWER cwmni EBICo ac maent yn dariffau cyfradd wastad sydd yn arbennig o ddilys i ddefnyddwyr isel.
3 Mae tariff Staywarm E.ON Energy ond ar gael i gwsmeriaid dilys sydd yn 60 oed neu’n hyn. Mae tariff Age Concern ar gael i bob cwsmer ond dim ond pobl dros 60 oed fydd yn derbyn taliad tywydd oer ar ben y £10 gwarantedig blynyddol a geir gan bob cwsmer ar y tariff hwn.
4 Mae’r tariffau energyplus ond ar gael i gwsmeriaid Scottish and Southern Energy. Os byddwch yn dewis Milltiroedd Awyr energyplus , byddwch yn ennill 350 o filltiroedd am yr un pris â’n hynni safonol wrth ymuno a hefyd 25 milltir ychwanegol bob chwarter. Os byddwch yn dewis Argos energyplus, byddwch yn ennill gosyngiad o 10% ar bryniadau gan Argos a Homebase. Os byddwch yn dewis Pulse energyplus, byddwch yn gwneud rhywbeth elusennol positifgan y byddwn yn rhoi £10 (£5 am bob tanwydd) i Sefydliad Calonnau Prydain.Mae Care energyplus yn cynnig buddion ychwanegol i gwsmeriaid blaenoriaethol. Mae’r pecyn ar gael i gwsmeriaid presennol Southern Electric sydd yn pryderi am fod yn oer oherwydd cartrefi, iechyd ac incwm gwael eithafol. Mae’n bosibl y byddwch yn ddilys ar gyfer Care energyplus os byddwch yn gwario dros 10% o gyfanswm eich incwm teulu ar eich biliau ynni.
Cynigion Prisiau Nenfydol / Sefydlog - Mae tariff prisiau nenfydol yn cynnig gwarant na fydd y pris, sef y pris a delir i’r awr/cilowat (kWh) am drydan neu nwy, yn codi y tu hwnt i’r ‘nenfwd’ am gyfnod gosodedig.
Gallai’r pris a delir am drydan neu nwy ostwng pe byddai prisiau safonol y cwmni’n gostwng o fewn y cyfnod. Bydd cyfanswm eich bil yn dal i amrywio yn dibynnu ar faint o ynni a ddefnyddir bob mis. Mae tariff pris sefydlog yn cynnig gwarant na fydd y pris, sef y pris a delir i’r awr/cilowat (kWh) am drydan neu nwy, yn codi am gyfnod gosodedig. Ond ni fydd pris y tariff yn gostwng yn ystod y cyfnod gosodedig pe bydd prisiau safonol y cwmni’n gostwng. Bydd cyfanswm eich bil yn dal i amrywio yn dibynnu ar faint o ynni a ddefnyddir bob mis.
Unwaith y bydd y cynnig o brisiau nenfydol neu sefydlog yn dod i ben, symudir cwsmeriaid fel arfer i dariff prisiau safonol y cyflenwyr.
Pethau i’w hystyried am Gynigion Prisiau Nenfydol a Sefydlog
Gall y mathau hyn o gynigion fod yn iawn ar gyfer:
a) cwsmeriaid sydd ar incwm sefydlog sydd am gyllido faint y byddant yn ei dalu am eu defnydd o ynni dros y flwyddyn;
b) cwsmeriaid sydd yn credu bod prisiau’n debygol o godi’n bellach yn y dyfodol.
Dylech nodi bod llawer o’r bargeinion hyn ddim ar gael i gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw.
Taliadau Terfynu am Dariffau Prisiau Sefydlog / Nenfydol – Mae nifer o gyflenwyr wedi dewis codi tâl terfynu ar unrhyw ddefnyddiwr sydd yn newid i gyflenwyr eraill cyn diwedd cyfnod gosodedig y cynnig. Awgrymwn ichi ofyn am y telerau ac amodau cyn arwyddo cytundeb am y cynigion hyn gan y gall fod yn ddrud pe byddwch yn penderfynu newid i dariff neu cyflenwr arall nes ymlaen.
Premiymau am Dariff au Sefydlog / Nenfydol – Holwch eich cyflenwr ynglyn ag unrhyw bremiwm ar brisiau nwy a thrydan a all fod yn rhan o’r tariff cyn arwyddo. Bydd hyn o help ichi ddeall buddion a pheryglon y mathau hyn o fargeinion yn well.
Tariffau Ar-lein – Mae’r tariff hwn yn caniatáu i gwsmeriaid reoli eu cyfrifon dros y Rhyngrwyd, gyda’r cyflenwyr fel arfer yn cynnig gostyngiad fel gwobr. Rhaid i ddefnyddwyr dalu am eu hynni trwy Ddebid Uniongyrchol.
Tariffau Arbenigol ar gyfer Grwpiau Targedol Penodol – Anelir y Tariffau hyn at grwpiau penodol a gallant gynnwys buddion arbennig. Mae llawer o’r Tariffau hyn ond ar gael i gwsmeriaid dilys a gall fod cyfyngiad ar y nifer o gwmseriaid a ganiateir ar dariff penodol.
Bargeinion Cydnawsedd: Mae’n bosibl y bydd gan gyflenwyr bartneriaethau â chwmnïau y tu allan i faes ynni a fydd yn caniatáu i’w cwsmeriaid fanteisio ar gynigion arbennig, neu gynlluniau ffyddlondeb neu wobrwyol.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am gynllun neu dariff penodol, dylech gysylltu â’r cyflenwyr yn uniongyrchol.