Cewch ddefnyddio gwasanaeth cymharu prisiau ar y rhyngrwyd i gymharu gwahanol gynigion gan gyflenwyr domestig nwy a thrydan, a darganfod faint y gallech ei arbed trwy newid i gyflenwyr newydd.
Yn 2002, lawnsiodd golwg ar ynni ei gôd ymddygiad gwirfoddol cyntaf i gwmnïau sydd yn darparu gwasanaethau cymharu prisiau trydan a nwy cartref dros y rhyngrwyd. Gwnaed cais llwyddiannus am achrediad gan nifer o gwmnïau, sydd yn golygu iddynt ddangos logo golwg ar ynni ar eu gwefannau.
Yn 2005, comisiynwyd golwg ar ynni arolwg o’r côd gan archwilwyr annibynnol. Yna, ymgynghorwyd ag Ofgem a chyfranogwyr eraill. Canlyniad hyn oedd nifer o argymhellion er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael canlyniadau cywir ac unffurf yn gyson gan y gwasanaethau cymharu prisiau.
Lawnsiwyd y Côd Hyder – ar Ddydd Mawrth 19 Rhagfyr 2006.
Acredwyd y cwmnï canlynol, gan iddynt lwyddo i arddangos cydymffurfiad â phob un o naw gofyniad y Côd Hyder. Maent bellach yn arddangos logo’r Côd Hyder ar eu safle.
Cewch ddefnyddio unrhyw un ohonynt i gael dyfynbris er mwyn darganfod faint y gallech ei arbed trwy newid i gyflenwyr newydd.
Bwrwch olwg dros ein Cwestiynau mynych sydd yn esbonio’n fanylach, ac os bydd rhagor o gwestiynau gennych chi, cysylltwch â rheolwr y côd