Jump to Page Content
CHWILIO:

Cael y fargen iawn i chi

Gan fod cwmnïau bellach yn cynnig ystod ddryslyd o wahanol fargeinion, mae’n hawdd drysu’n llwyr am yr hyn sydd ar gael. I’ch helpu chi i benderfynu pa un sydd orau i chi, defnyddiwch un o’r gwasanaethau cymharu prisiau ar y we sydd wedi eu hachredu i “Côd Hyder” golwg ar ynni am wasanaethau cymharu prisiau.

Bydd y safleoedd cymharu prisiau annibynnol yn helpu miloedd o gartrefi bob mis i gymharu prisiau a newid i well fargeinion. Maent yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sydd yn cymharu eich cyflenwyr, tariff a defnydd presennol gyda thariffau’r holl gyflenwyr pwysig, er mwyn eich helpu chi i gael y fargen orau i chi a chynnig gwasanaeth newid cyflenwyr hawdd ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl ar bob tariff, gan gynnwys prisiau uned nwy a thrydan ac unrhyw ostyngiadau.

Cewch gymharu prisiau hefyd trwy ddefnyddio’n cyfrifydd parod isod a fydd yn dangos y prisiau yn eich ardal chi. Dylech nodi bod ein cyfrifydd parod ond yn defnyddio cyfrifiadau syml i roi amcangyfrifon o brisiau (yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gennych chi). Nid yw’r prisiau hyn yn dangos y cyfraddau uned kWh gan fod gormod o lawer o ddewisiadau amrywiol. Os ydych am gael cymhariaeth prisiau mwy cywir a manwl am gyflenwyr yn eich ardal chi, defnyddiwch un o’r gwasanaethau cymharu prisiau. Er inni wneud ein gorau glas i wneud yn siwr bod ein gwybodaeth prisio mor ddiweddar â phosibl, argymhellwn yn gryf ichi gysylltu â’r cyflenwyr i wneud yn siwr o’u prisiau cyfredol os ydych yn ystyried newid cyflenwyr.

Ddim yn gallu penderfynu ar ba gwmni i newid iddo? Gallai fod o ddiddordeb ichi weld sut y mae’r cyflenwyr yn cymharu â’ui gilydd – edrychwch ar yr ystadegau sydd yn dangos y nifer o achosion y mae golwg ar ynni wedi eu derbyn o gwsmeriaid pob cyflenwr.






Price Change Email Logo

Keep losing track of the latest prices?

Then register your details to receive an email when the energy companies change their prices - see at glance how their prices compare.

Send me emails.

* MATH O DDEFNYDDIWR:

Mae ddwy wahanol ffordd o benderfynu pa fath o ddefnyddiwr ynni yr ydych: faint y byddwch yn ei dalu a faint y byddwch yn ei ddefnyddio.

Costau

Defnyddiwr isel - os byddwch yn talu’n gyffredinol £15 i £27 y mis neu £180 i £320 y flwyddyn am un tanwydd
Defnyddiwr canolig - os byddwch yn talu’n gyffredinol £29 i £44 y mis neu £350 i £530 y flwyddyn am un tanwydd
Defnyddiwr uchel - os byddwch yn talu’n gyffredinol £45 to £61 y mis neu £540 i £730 y flwyddyn am un tanwydd

Defnydd

Defnyddiwr isel - os yw eich defnydd blynyddol yn 1,650 kWh o drydan a 10,000 kWh o nwy
Defnyddiwr canolig - os yw eich defnydd blynyddol yn 3,300 kWh o drydan a 20,500 kWh o nwy
Defnyddiwr uchel - os yw eich defnydd blynyddol yn 4,950 kWh o drydan a 28,000 kWh o nwy

Am ddefnydd trydan ar gyfradd Economy 7 3,300 kWh (isel), 6,600 kWh (canolig) a 9,900 kWh (uchel). Mae biliau cyfradd Economy 7 yn tybio defnydd nos o 55%. Noder: seilir y cyfrifiadau bil a ddangosir ar ein tabl ac yn ein taflenni cymharu prisiau fel y cyfryw ar ddefnydd blynyddol.