Mae cystadleuaeth yn y marchnadoedd nwy a thrydan yn golygu y cewch ddewis bellach pwy sydd yn cyflenwi’ch nwy a’ch trydan. Dyluniwyd y wybodaeth hon i’ch helpu trwy’r broses o ddewis a newid cyflenwyr fel y bydd modd ichi ddewis y cyflenwyr a fydd orau ar eich cyfer chi.
Ble bynnag yr ydych chi’n byw ym Mhrydain, mae llawer o gyflenwyr i ddewis rhyngddynt. Cewch ddewis cwmnïau ar wahân am eich nwy a’ch trydan, neu cewch ddewis un cwmni ar gyfer y ddau - dyma’r hyn a elwir yn danwydd dwbl. Mae rhestr o’r cwmnïau cyflenwi sydd yn gweithredu yn eich ardal chi, a’r prisiau maent yn eu codi, ar gael gan olwg ar ynni trwy ffonio 0845 906 0708, neu Cliciwch Yma.
I gymharu’r prisiau a gynigir gan wahanol gyflenwyr gyda’r pris gan eich cyflenwyr presennol, bydd rhaid ichi weithio allan faint yr ydych yn talu am eich tanwydd bob blwyddyn ar hyn o bryd. Cewch weithio hyn allan trwy edrych ar eich pedwar bil chwarterol diwethaf.
Ar ben hyn mae nifer o gwestiynau yr hoffech eu gofyn cyn penderfynu ar newid i gyflenwyr newydd.
Mae’n ofynnol ar bob cyflenwr i gyhoeddi eu prisiau. Gallant anfon manylion o’u prisiau atoch chi ar gais. Mae golwg ar ynni’n cyhoeddi cymariaethau o’r gwahanol brisiau a godir gan gyflenwyr. Cewch ofyn am y rhain gan olwg ar ynni trwy ffonio 0845 906 0708 a chewch eu gweld hefyd trwy glicio yma.
Er mwyn sicrhau ichi gael y fargen orau, mae’n talu ichi siopa o gwmpas a gwneud cymariaethau rhwng y prisiau a gynigir gan wahanol gyflenwyr yn eich ardal.
Fel arfer bydd cyflenwyr yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau talu i gwsmeriaid, yn amrywio mewn amledd o ddewisiadau wythnosol i chwarterol a thrwy dalu mewn arian parod, archeb post, siec, dyled uniongyrchol neu fesurydd talu ymlaen llaw. Gofynnwch wrth eich cyflenwyr i ddweud wrthych chi am yr holl ddewisiadau talu sydd ar gael ichi fel y cewch wneud y dewis sydd orau i chi. Hefyd mae’n bosibl y byddwch am sicrhau nad oes unrhyw gosbau am diddymu’r cytundeb.
Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith y gall rhai dulliau talu fod yn rhatach na’i gilydd. Er enghraifft, fel arfer bydd yn rhatach i dalu eich biliau ynni trwy ddyled uniongyrchol misol, yn hytrach na thalu gyda siec ar sail chwarterol. Cynigir gwahanol dariffau (neu brisiau) i wahanol ddefnyddwyr yn ôl eu hamgylchiadau.
Hefyd fydd maint y tanwydd a ddefnyddiwch yn cael effaith ar y pris y byddwch yn ei dalu. Mae’n bosibl y cynigir cyflenwad o ynni yn rhatach i rywun sydd yn defnyddio llawer o ynni na rhywun sydd yn defnyddio llai. Beth bynnag y pris a ddyfynnir, dylech sicrhau a ydyw’n cynnwys TAW ai peidio.
Mae’n bosibl y bydd rhai cyflenwyr yn cynnig gostyngiadau neu ysgogiadau arbennig i ddefnyddwyr sydd am iddynt gyflenwi nwy a thrydan iddynt ( h.y. tanwydd dwbl). Mae gan gyflenwyr eraill becynnau a all gynnwys gwasanaethau eraill fel gwasanaethau ffôn rhatach neu deithiau awyr gostyngiedig neu rad ac am ddim.
Mae rhai cyflenwyr yn cynnig cynlluniau talu arbennig i bensiynwyr. Gwnewch yn siwr ichi ofyn am fanylion cyn ichi arwyddo unrhyw beth.
Bydd rhai cyflenwyr yn ychwanegu tâl sefydlog at eich bil tanwydd, eraill ddim.Yn lle hynny mae’n bosibl y bydd y cwmnïau hynny sydd ddim yn ychwanegu tâl sefydlog yn gofyn am bris uned uwch am y nwy a’r trydan y byddwch yn eu defnyddio.
Os ydych yn ymddiddori yn y math o wasanaeth yr ydych yn debyg o’i gael gan gyflenwyr newydd, yn ogystal â’r prisiau y byddant yn eu codi, byddai’n fuddiol i holi ynglŷn â’u perfformiad. Gall golwg ar ynni roi manylion o nifer a mathau cwynion ymaent wedi’u cael gan ddefnyddwyr ynglŷn â chyflenwyr unigol. Cliciwch yma i weld Cwynion am y Diwdiant.
Unwaith y byddwch yn hapus eich bod wedi dewis y cyflenwyr gorau at eich anghenion chi, mae newid yn fater cymharol syml.
Cam 1: Cysylltwch â’r cyflenwyr newydd a chytuno ar gytundeb gyda nhw. Unwaith y cytunir y cytundeb, dylai’r broses o drosglwyddo gymryd tua chwech wythnos i’w chwblhau. Bydd eich cyflenwyr newydd yn eich cadw chi’n hysbys ar sut y mae eich trosglwyddiad yn symud yn ei flaen.
Cam 2: Rhowch rybudd o 28 o ddiwrnodau i’ch hen gyflenwyr o’ch bwriad i newid i gyflenwyr newydd. Cyngor golwg ar ynni yw ichi wneud hyn dros y ffôn i ddechrau gan ddilyn i fyny gyda chadarnhad ysgrifenedig. Os na fyddwch yn dweud wrth eich hen gyflenwyr eich bod yn newid, gall hyn dorri ar draws eich trosglwyddiad i’ch cyflenwyr newydd neu achosi oediad i hynny.
Cam 3: Talwch unrhyw filiau sydd yn ddyledus i’ch cyflenwyr presennol. Os na wnewch chi hynny, mae’n bosibl y byddant yn eich atal rhag trosglwyddo.
Cam 4: Darllenwch y mesurydd ar y diwrnod y byddwch yn newid cyflenwyr. Os na fydd eich hen gyflenwyr yn ei ddefnyddio i weithio eich bil olaf allan, neu os na fydd eich cyflenwyr newydd yn ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer eich bil cyntaf, rhowch wybod iddyn nhw am y darlleniad mesurydd a gymerwyd gennych.