Heddiw mae mwy a mwy o bobl yn ystyried mynd yn wyrdd wrth brynu eu hynni. Ond gall dewis y tariff sydd yn iawn i chi fod yn anodd, gyda nifer o wahanol “dariffau gwyrddion” ar y farchnad ar hyn o bryd.
A beth y mae’r cyflenwyr ynni yn golygu wrth ddweud “gwyrdd” beth bynnag? I rai ohonynt, gall feddwl eu bod yn eich cyflenwi chi â thrydan adnewyddadwy, a bydd rhai eraill yn buddsoddi mewn adeiladu melinau gwynt, neu brosiectau i liniaru gollyngiadau o garbon. Hwyrach y bydd yn syndod ichi glywed bod rhan o’ch trydan – neu hyd yn oed eich trydan i gyd – yn dod o ffynonellau an-adnewyddadwy mewn gwirionedd.
Dyna pam mae golwg ar ynni wedi llunio canllaw i’r holl dariffau gwyrddion sydd ar gael ar hyn o bryd. Nid yw’r canllaw’n asesu "gwyrddni" tariff arbennig (nid oes unrhyw gynllun achredu neu archwilio annibynnol ar hyn o bryd) ond yn hytrach mae’n categoreiddio ac yn rhoi gwybodaeth cefndirol am bob tariff i’ch helpu chi wrth wneud eich dewis.
Os ydych am newid i gynnyrch 'gwyrdd', mae nifer o wahanol dariffau ar gael ar hyn o bryd y mae golwg ar ynni wedi eu categoreiddio fel a ganlyn:
Tariffau gwyrddion a gynigir gan gyflenwyr ar hyn o bryd |
|||||
|---|---|---|---|---|---|
| Enw’r Tariff a’r Cyflenwr | Ffynhonnell werdd | Ffynhonnell werdd (Hydro Mawr) | Cronfa Werdd (Adnewydd-adwyon Newydd) | Cronfa Werdd (Amgylcheddol Eraill) | Gwrthbwyso Carbon |
| British Gas Climate Aware |
|||||
| British Gas Green Electricity |
|||||
| EBICo EQUICLIMATE |
|||||
| Ecotricity New Energy |
|||||
| Ecotricity New Energy Plus |
|||||
| EDF Energy Climate Balance |
|||||
| EDF Energy Green Tariff |
|||||
| Good Energy | |||||
| Green Energy UK green energy +10 |
|||||
| Green Energy UK green energy 100 |
|||||
| Npower Juice |
|||||
| Npower National Trust Green Energy |
|||||
| E.ON Energy GreenPlan |
|||||
| Scottish and Southern Energy better plan | |||||
| Scottish and Southern Energy RSPB Energy | |||||
| ScottishPower Green Energy |
|||||
| ScottishPower H2O |
|||||
Mae gan ddisgrifiad tariff(au) pob cyflenwr fwy o fanylion cefndirol am sut y bydd eu cynhyrchion yn gweithio yn ogystal â gwybodaeth ar unrhyw fechanweithiau archwilio a ddefnyddir. |
|||||
Ffynhonnell werdd (hydro mawr)
Cronfa werdd (adnewyddadwyon newydd)
Cronfa werdd (amgylcheddol eraill)
| Noder: nid oes unrhyw gynlluniau achredu neu archwilio ar gyfer tariffau ynni werdd i roi hyder i ddefnyddwyr bod honiadau’r cylenwyr yn wir. O’r herwydd, mae golwg ar ynni wedi gofyn i gyflenwyr roi manylion cefndirol am eu tariffau a sut y byddant yn rhoi prawf o ‘wyrddni’ yn ogystal â manylion unrhyw gyfundrefnau archwiliol a ddefnyddir. |
|---|