Jump to Page Content
CHWILIO:

Troi’n Wyrdd

Mae defnyddwyr yn y DU’n gynyddol ymwybodol o destunau amgylcheddol a moesol ac yn fwyfwy pryderus amdanynt. Bellach mae defnyddwyr yn gwario dros £29 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau moesol, megis bwydydd organig neu fasnach deg, trafnidiaeth amgylcheddgar, dillad moesol a bancio moesol. Eto i gyd, mae ond 0.2 y cant o’r gwariant hwn ar ynni werdd, ac mae ond un y cant o ddefnyddwyr ynni ym Mhrydain wedi arwyddo cytundebau am dariff gwyrdd neu wrthbwys carbon.

Mae’n bosibl mae dryswch ar ran y defnyddiwr sydd yn un o’r rhesymau am fethu cytuno i dariffau gwyrddion. Oni fydd defnyddwyr yn dechrau cynhyrchu eu hynni eu hunain trwy ddefnyddio paneli ynni hau, melinau gwynt a’r cyffelyb, mae’n anodd gweld sut y gallant droi’n wyrdd. Mae’n orfodol ar ddefnyddwyr gael eu hynni gan gyflenwyr a bydd rhaid i hynny ddod ar hyd eu pibellau a gwifrau presennol. Ni all nwy fod yn wyrdd gan ei fod yn dod o danwydd ffosil a ni ellir gwarantu bod unrhyw drydan a gynhyrchir o ffynhonnell adnewyddadwy yn cyrraedd eich cartref gan y bydd yn mynd i mewn i’r cymysgedd o drydan o danwyddau niwclear a ffosil.

Felly, ar hyn o bryd, mae dewis tariff gwyrdd yn dueddol o olygu un o’r tri dewis canlynol:

Trydan ffynhonnell ‘Werdd’ – mae hyn yn golygu bod cyflenwyr ynni’n gwarantu prynu, o gynhyrchiwr adnewyddadwy, canran o drydan i gyfateb i bob uned o drydan a defnyddir gan y defnyddiwr.

Tariffau cronfa ‘Werdd’ – dyluniwyd y rhain i gynnal adeiladwaith ffynhonellau adnewyddadwy newydd o gynhyrchu trydan, achosion amgylcheddol neu brosiectau ymchwil a datblygiad newydd.

Gwrthbwyso Carbon – mae’r tariffau hyn yn helpu lleihau neu wrthbwyso’r gollyngiadau diocsid carbon neu’r ‘ôl troed carbon’ a gynhyrchir gan gartref cyfartaleddol, er enghraifft trwy blannu coed.

Ond nid yw’r wybodaeth a ddarperir gan gyflenwyr am y gwahanol dariffau hyn bob amser yn dryloyw, ac mae defnyddwyr yn aneglur am y buddion amgylcheddol y maent yn eu cynnig, nac, yn wir, sut y byddant yn ychwanegu at yr ynni adnewyddadwy y mae’r gyfraith yn mynnu i gyflenwyr ei chyflenwi. Hefyd, nid oes unrhyw gynllun ar gael i wirio neu gadarnhau honiadau cyflenwyr am buddion amgylcheddol neu ‘wyrddni’ eu tariffau.

Mae golwg ar ynni am gael darpariaeth o wybodaeth glir a safonol am wahanol fathau o dariffau gwyrddion ar gyfer y defnyddwyr. Byddai cynllun gwirio’n dilysu’r honiadau amgylcheddol a wneir gan gyflenwyr, ac yn rhoi i ddefnyddwyr yr hyder i wneud dewisiadau am y tariffau gwyrddion sydd ar gael ar sail wybodaeth. Mae golwg ar ynni wrthi’n ymgyrchu am i’r Llywodraeth a’r Diwydiant i ddatblygu cynllun.

I helpu defnyddwyr sydd am gael cytundeb tariff gwyrdd ar unwaith, mae golwg ar ynni wedi creu canllaw i dariffau gwyrddion ar gyfer defnyddwyr.

Mae’r canllaw i ddefnyddwyr yn rhoi cefndir manwl i bob tariff gwyrdd, er mwyn eich helpu chi i benderfynu pa dariff sydd yn iawn i chi. Mae canllaw golwg ar ynni’n canolbwyntio ar fanylion y tariff, er ein bod ni wedi cynnwys dolennau i wefannau’r cwmnïau neu adroddiadau amgylcheddol os ydych am gael mwy o wybodaeth am bolisïau buddsoddi neu fusnes ehangach y cwmnïau.

Os cawsoch eich ysbrydoli gan ein canllaw defnyddwyr, rydym wedi cynnwys dolennau i’r holl wefannau newid cyflenwyr er mwyn eich helpu symud.