Ynni’r RSPB: tariff ffynhonnell werdd sydd yn cyd-bwyso pob uned o drydan y byddwch yn ei ddefnyddio gyda chyflenwad o ynni adnewyddadwy yn ôl i mewn i’r grid trydan. Daw 90% o gyfleusterau hydro-electrig mawr a 10% o ffynonellau sydd yn gymwys o dan yr Ymrwymiad Adnewyddadwyon. Bydd SSE yn tynnu’n ôl 10% oTystysgrifau Ymrwymiad Adnewyddadwyon y tu hwnt i’w ymrwymiadau stadudol. Bydd hyn yn tynnu’r Tystysgrifau oddi ar y farchnad,a gallai hynny gynyddu’r pris y bydd cynhyrchwyr adnewyddadwyon yn ei dderbyn.
Bydd SSE hefyd yn rhoi £10 am bob tanwydd i’r RSPB os byddwch yn newid i’r tariff hwn, a hefyd £5 ychwanegol am bob tanwydd am bob blwyddyn y byddwch yn aros ar y tariff hwn.. Mae’n costio tua 5% neu gyfartaledd o £16.50 (heb TAW) y flwyddyn yn fwy na thariff safonol SSE.
Cynllun gwell SSE yw tariff ffynhonnell werdd lle y bydd y cwmni’n cyd-bwyso 100% o’r trydan y byddwch yn ei ddefnyddio gyda chyflenwad o bwer hydro-electrig yn ôl i mewn i’r grid trydan. Daw’r holl drydan o orsafoedd cynhyrchu mawr hydro’r cwmni ei hunan.. Bydd y cwmni yn helpu defnyddwyr cynllun gwell i leihau eu defnydd o drydan, gyda gwobrau ar gael am wneud hynny – bydd gostyngiad o 10% mewn defnydd ynni blynyddol yn ennill credyd ynni o £15 i chi ar eich bil nesaf, credyd o £25 am leihad o 20%. Bydd pob cwsmer ar y tariff yn cael monitor yn rhad ac am ddim sydd yn hawdd ei ddefnyddio sydd yn dangos patrymau defnydd trydan eich cartref a fydd yn eich helpu gweithio allan ffyrdd o dorri i lawr ar eich defnydd o drydan.
Hefyd bydd cwsmeriaid yn cael pecyn gwybodaeth cynllun gwell gyda manylion o ostyngiadau a chynigion arbennig sydd ar gael gan SSE ar ystod eang o gamau effeithiolrwydd ynni. Bydd unrhyw gwsmer cynllun gwell sydd yn prynu ynysiad llofft neu geuwal, gwarchodiad gwres canolog, nwyddau trydan cyfradd-A neu fwyleri cywasgu gan SSE yn ennill credydau ynni o rhwng £10 ac £20 y cynnyrch oddi ar eu biliau yn y dyfodol. Mae modd ennill credydau ychwanegol trwy ymuno â chynllun bilau di-bapur neu archwiliad gwifrau di-dâl. Mae’r tarfiff ar gael i gwsmeriad tanwydd dwbl a thrydan yn unig fel y cyfryw.
Mae SSE yn gweithredu o dan yr enwau masnachol Southern Electric, SWALEC a Scottish Hydro Electric.
Scottish
and Southern Energy better plan |
Scottish
and Southern Energy RSPB Energy |
|
|---|---|---|
| Math o dariff | ||
| Ffynhonnell werdd | ||
| Ffynhonnell werdd (hydro mawr) | ||
| Cronfa werdd (adnewyddadwyon newydd) | ||
| Cronfa
werdd (amgylcheddolion eraill) |
||
| Gwrthbwyso carbon | ||
| Gwarantau Tariff | ||
| Tariff gyda GTTAau/REGOs yn gefn | 100% |
100% |
| Tariff â diddymiad TELau/LECs yn gefn | 10% |
|
| Tariff â diddymiad TGAau/ROCs y tu hwnt i’r gofyniad stadudol yn gefn | 10% |
|
| Gwybodaeth Ychwanegol | ||
| Dim premiwm yn daladwy | ||
| Bargen gyswllt | RSPB |
|
| Ysgogiadau
i leihau defnydd |
||
| Ar gael i gwsmeriaid trydan | ||
| Ar gael i gwsmeriaid nwy | ||
| Ar gael i gwsmeriaid mesurydd talu ymlaen llaw | ||
|
||