Juice dyma dariff ffynhonnell werdd a chronfa werdd sydd yn paru cyfanswm y trydan a ddefnyddir gennych â chyflenwad o bŵer adnewyddadwy i mewn i’r grid trydan. Yn 2006 - 07, daeth 83% o’r trydan a gyflenwyd o ffermydd gwynt. Daeth y gweddill o gynhyrchfa hydro Dolgarrog yng Ngogledd Cymru. Bydd y ganran o drydan o ffermydd gwynt yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Hefyd, mae Npower wedi ymrwymo i gyfrannu £10 y cwsmer bob blwyddyn i Gronfa sydd yn buddsoddi mewn technolegau ton a llanw.
Caiff Juice ECOFYS archwiliad annibynnol bob 18 mis.
Ynni Werdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dyma ffynhonnell werdd a thariff y gronfa werdd. Bydd Npower yn rhoi cant y cant o bwer adnewyddadwy yn ôl i mewn i’r grid trydan am y trydan y byddwch yn ei ddefnyddio. I bob cwsmer sydd yn arwyddo am y tariff, bydd y cwmni’n cyfrannu hyd at £30 (£15 am drydan a £15 am nwy) i Gronfa Ynni Werdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am bob blwyddyn ychwanegol y bydd cwsmer yn aros ar y tariff, bydd Npower yn cyfrannu £20 arall (£15 am drydan a £5 am nwy) i’r Gronfa.
Bydd Cronfa Ynni Werdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cefnogi buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy meicro a raddfa fechan mewn eiddo’r Ymddiriedolaeth megis gosod ffoto-foltaig yr haul, dwr poeth o’r haul a phympiau gwres o ffynhonnell y ddaear. Bydd y Gronfa hefyd yn cefnogi creu pentrefi carbon isel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol., trwy gefnogi cymunedau lleol sydd yn byw mewn pentrefi’r Ymddiriedolaeth i ddatblygu a rhannu atebion ymarferol i leihau ôl troed carbon eu cartrefi a’u cymunedau.
Hefyd bydd cwsmeriaid ar y tariff yn derbyn llyfryn Gofal a Chadw yn cynnwys cynghorion effeithiolrwydd ynni a hefyd bonion prisiau gostyngiadol ar gyfer meicro-gynhyrchu ac atebion arbed ynni megis pympiau gwres ffynhonnell daear, ffoto-foltaig, systemau thermaidd haul, ynysu nenfwd a chauwelydd.
Npower
Juice |
Npower National Trust Green Energy |
|
|---|---|---|
| Math o dariff | ||
| Ffynhonnell werdd | ||
| Ffynhonnell werdd (hydro mawr) | ||
| Cronfa werdd (adnewyddadwyon newydd) | ||
| Cronfa
werdd (amgylcheddolion eraill) |
||
| Gwrthbwyso carbon | ||
| Gwarantau Tariff | ||
| Tariff gyda GTTAau/REGOs yn gefn | 100% |
100% |
| Tariff â diddymiad TELau/LECs yn gefn | 83%* |
100% |
| Tariff â diddymiad TGAau/ROCs y tu hwnt i’r gofyniad stadudol yn gefn | ||
| Gwybodaeth Ychwanegol | ||
| Dim premiwm yn daladwy | ||
| Bargen gyswllt | ||
| Ysgogiadau
i leihau defnydd |
||
| Ar gael i gwsmeriaid trydan | ||
| Ar gael i gwsmeriaid nwy | ||
| Ar gael i gwsmeriaid mesurydd talu ymlaen llaw | ||
*Ffigurau 2006 -07. Gall y ganran amrywio rhyw ychydig bob blwyddyn. |
||