energywatch: Billing Basics
Jump to Page Content
CHWILIO:

Sylfaenolion Biliau

Pa mor aml y dylai fy nghyflenwyr anfon bil imi?

Pa wybodaeth ddylid bod ar fy mil?

Sut a ble gallaf dalu fy mil?

Mae fy mil diweddaraf yn uwch o lawer nag arfer

Sut y bydd fy nghyflenwyr yn amcangyfrif fy narlleniadau mesurydd?

Beth y mae’r llythrennau ar ôl y darlleniad mesurydd yn ei olygu?

Sut y gallaf roi fy narllediadau mesurydd fy hunan?

Rwyf heb gael bil ers amser maith - a oes rhaid imi dalu?

Beth yw’r ‘uwch-g ŵyn’?

 

 

 

Pa mor aml y dylai fy nghyflenwyr anfon bil imi?
Nid oes unrhyw reidrwydd cyfreithiol ar gwmnïau ynni i roi biliau mewn bylchau rheolaidd. Ond dylai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gael biliau gan eu cyflenwyr yn chwarterol (os yn talu trwy ddebyd uniongyrchol yn fisol neu drwy gredyd chwarterol safonol).

Os ydych yn talu am eich nwy neu drydan trwy fesurydd talu ymlaen llaw, cewch ddisgwyl fel arfer i gael mantoleb unwaith y flwyddyn i ddangos faint o ynni yr ydych wedi ei ddefnyddio dros y cyfnod hwnnw. Mae’n bosibl na fydd y rhain yn seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd go iawn ond ar amcangyfrifon gan eich cyflenwyr.

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein â’ch cyflenwyr ynni dylech ddisgwyl gael mynediad ar-lein i’ch mantolebau a biliau.

Yn ol i'r top ^


Pa wybodaeth ddylid bod ar fy mil?
Dylai pob bil ynni gynnwys rhannau allweddol o wybodaeth ar gyfer defnyddwyr. Mae’r prif rai fel a ganlyn:

  1. Manylion cysylltu am y cyflenwyr.
  2. Eich cyfeirif cwsmer neu rif eich cyfrif – dylai’r rhain fod yn amlwg ar y bil a dylech eu dyfynnu bob tro y byddwch yn cysylltu â’ch cyflenwyr.
  3. Fel arfer bydd y gweddill heb ei dalu mewn llythrennau bras.
  4. Eich enw a’ch cyfeiriad.
  5. Dyddiadau cyfnod y bil.
  6. Darlleniad blaenorol eich mesurydd, a’ch darlleniad diweddaraf.
  7. Nifer yr oriau cilowat o nwy neu drydan a ddefnydiwyd gennych chi.
  8. Faint y mae eich cyflenwyr yn ei godi arnoch chi am bob awr cilowat o nwy neu drydan.
  9. Y cyfeirif cyflenwad penodol am eich safle.
  10. Dylai manylion cysylltu golwg ar ynni fod ar gefn y bil fel y gallwn ni helpu os na fydd modd ichi ddatrys cwyn gyda’ch cyflenwyr.
  11. Manylion cysylltu argyfwng os cewch golled cyflenwad neu argyfwng arall.

Yn ol i'r top ^


Sut a ble gallaf dalu fy mil?
Mae nifer o wahanol ffyrdd ichi dalu eich bil am nwy neu drydan, a nifer o wahanol leoedd i wneud hynny. Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau ynni yn derbyn taliadau trwy arian, siec, debyd uniongyrchol, archeb sefydlog, mesurydd talu ymlaen llaw, cerdyn debyd neu gredyd, ar-lein neu gardiau talu mewn cyfnodau rheolaidd.

Fel arfer cewch dalu’ch bil yn eich banc, trwy’r post i’ch cyflenwyr, ar-lein i wefan eich cyflenwyr, dros y ffôn, mewn Swyddfa’r Post neu mewn Man Talu neu gwerthfan Payzone (Dyma wasanaeth di-dâl; am eich gwerthfan agosaf, ffoniwch 0845 6020236 am Fan Gwerthu neu 0845 7660111 am Payzone).

Yn ol i'r top ^


Mae fy mil diweddaraf yn uwch o lawer nag arfer
Mae dau brif reswm am ichi gael bil sydd yn uwch na’r arfer.

  1. Mae eich cyflenwyr wedi llunio’ch bil ar sail amcangyfrif (gw. isod) sydd yn uwch na’r darlleniad go iawn, ac wedi anfon bil atoch am y swm uwch. Os dyma’r sefyllfa, dylech gysylltu â’ch cyflenwyr ar unwaith gyda’r darlleniad go iawn gan ofyn am iddynt anfon bil cywiriedig.
  2. Mae eich cyflenwyr yn anfon biliau amcangyfrifol atoch ers amser, a bellach maent wedi cael y darlleniad* go iawn, sydd yn dangos eich bod heb dalu’n ddigonol o’r blaen. Os felly, rhaid ichi dalu am y maint yr ydych wedi’i defnyddio mewn gwirionedd. Dyma’r rheswm y dylech edrych ar y mesurydd bob tro y byddwch yn cael bil (yn enwedig os yn amcangyfrif) i wneud yn siwr bod y darlleniad a ddefnyddiwyd gan eich cyflenwyr yn cyfateb â’r darlleniad go iawn a chysylltu â’r cwmni os nad felly. Os gwnewch hynny, bydd y siawns ichi gael bil uwch o lawer nes ymlaen yn llai o lawer.

Os byddwch yn cael bil uwch o lawer sydd yn ormod ichi ei dalu’n gyfan ar unwaith, dylech ofyn i’ch cyflenwyr gynnig cynllun talu ichi a fydd yn caniatáu ichi dalu’r dyled mewn camau.

* Mae ond yn ofynnol ar gyflenwyr ‘ymdrechu’n rhesymol’ i ddarllen eich mesurydd unwaith bob yn ail flwyddyn, sydd yn golygu bod mwyafrif eich biliau’n debygol o fod yn amcangyfrifon. Dyna pam y mae’n synhwyrol ichi gymharu’ch bil a’ch mesurydd.

Yn ol i'r top ^


Sut y bydd fy nghyflenwyr yn amcangyfrif fy narlleniadau mesurydd?
Bydd cwmnïau ynni’n llunio amcangyfrifiadau trwy edrych ar faint o ynni yr ydych wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol ar yr amser penodol hwnnw o’r flwyddyn. Os ydych newydd newid cyflenwyr, byddant naill ai’n llunio amcangyfrif safonol neu yn cysylltu â’r casglwr data i roi darlleniadau’r gorffennol iddynt.

Yn ol i'r top ^


Beth y mae’r llythrennau ar ôl y darlleniad mesurydd yn ei olygu?
Mae nifer o lythrennau a all ymddangos ar ôl y darlleniad mesurydd ar eich bil nwy neu drydan. Dyma rai o’r mwyaf cyffredin:

(E) – mae hyn yn golygu bod eich cyflenwyr wedi amcangyfrif y darlleniad
(A) – mae hyn yn golygu bod eich cyflenwyr wedi defnyddio darlleniad go iawn gan ddarllenydd mesuryddion.
(C) – mae hyn yn golygu bod eich cyflenwyr wedi defnyddio’r darlleniad a ddarparwyd gennych chi (NEU, weithiau, gall hyn olygu ‘darlleniad amcangyfrifol cwmni’)
(R) – mae hyn yn golygu mai dyma’r darlleniad terfynol o fesurydd sydd bellach wedi ei dynnu allan bellach.
(N) – mae hyn yn golygu mai dyma darlleniad cyntaf o fesurydd newydd
(F) – darlleniad terfynol mesurydd wrth adael aneddau, terfynu cyflenwad neu newid cyflenwyr

Mae’n bosibl y bydd cyflenwyr penodol yn defnyddio gwahanol lythrennau, er bod y rhan fwyaf yn defnyddio’r rhain a dylai’ch bil gynnwys allwedd i esbonio ystyr pob llythyren.

Yn ol i'r top ^


Sut y gallaf roi fy narllediadau mesurydd fy hunan?
Mae gan bob un o’r prif gwmnïau ynni linell ffôn neilltuol y gallwch ei defnyddio i roi eich darlleniadau mesurydd eich hunan iddynt. Dylai’r rhif ymddangos yn glir ar y bil. Bydd rhai cwmnïau’n defnyddio’ch darlleniad i roi bil newydd i chi; eraill yn gofyn a ydych am gael bil newydd, neu mae’n bosibl bod ganddynt wahanol bolisïau ar a fyddant yn anfon bil diwygiedig atoch ai peidio. Os mewn amheuaeth, gofynnwch wrth eich cyflenwyr.

Yn ol i'r top ^


Rwyf heb gael bil ers amser maith - a oes rhaid imi dalu?
Mae’n ymrwymiad cyfreithiol ar ddefnyddwyr i dalu am eu cyfleustodau. Ond mae Deddf Cyfyngiadau 1980 yn gwahardd hawliadau os defnyddiwyd y trydan neu’r nwy yn fwy na chwe mlynedd yn ôl. Pum mlynedd yw’r cyfnod hwn yn yr Alban.

Ar y lleiaf, dylai cyflenwyr gynnig cynllun talu sydd yn caniatáu ichi ad-dalu unrhyw ddyled dros yr un cyfnod o amser ag yr ymgronnwyd y ddyled. Mewn geiriau eraill, os na chawsoch fil gan eich cyflenwyr am dair blynedd, dylai fod yn bosibl ichi wasgaru’r ad-daliadau dros dair blynedd pan fydd bil yn ymddangos o’r diwedd. Ond os byddwch yn derbyn cynllun ad-dalu ni fydd yn bosibl ichi newid eich cyflenwyr nes y byddwch wedi clirio’r ddyled sydd heb ei thalu.

Ond oherwydd yr ‘uwch-g ‘uwch-g ŵyn’yn’ a gyflwynwyd gan olwg ar ynni ym mis Ebrill 2005 i’r rheoleithwyr ynni, Ofgem (gw.isod), dywedwyd wrth gwmnïau ynni ni ddylent gyflwyno bil, o fis Gorffennaf 2006 ymlaen, am unrhyw ynni a ddefnyddiwyd gan gyflenwyr yn fwy na dwy flynedd yn flaenorol lle mae’r cwmni ei hun wedi methu â darparu bil. O fis Gorffennaf 2007, disgwylir i gwmnïau beidio â rhoi bil am unrhyw swm sydd yn mynd yn ôl am fwy na blwyddyn.

Yn ol i'r top ^



Beth yw’r ‘ uwch-g ŵyn’?
Fel sydd yn wir am gyrff llygad barcud eraill, mae gan olwg ar ynni nifer o b ŵerau stadudol. Yn yr achos hwn, gall golwg ar ynni gyflwyno ‘uwch-g ŵyn’ i Ofgem o dan Ddeddf Fenter 2002, ar unrhyw agwedd o bryder difrifol yn y farchnad ynni.

Cred golwg ar ynni bod perfformiad cwmnïau ynni yn rhy aml yn wael yng ngyhyd-destun biliau defnyddwyr, a gall hyn arwain at galedi difrifol weithiau. Credwn bod gan ddefnyddwyr hawl i ddisgwyl biliau nwy a thrydan sydd:

  • yn gywir;
  • yn brydlon; ac
  • yn glir.

Felly cyflwynodd golwg ar ynni ‘uwch-g ŵyn' i Ofgem ar filiau. Wrth wneud ei benderfyniad, gosododd Ofgem tri gofyniad ar gyflenwyr ynni:

  1. Erbyn mis Gorffennaf 2006 bydd rhaid iddynt sefydlu ac ariannu corff annibynnol i ddatrys anghydfodau rhwng gwmnïau unigol a defnyddwyr. Bydd gan y corff hwn y pŵer i ddyfarnu iawn-dâl i ddefnyddwyr sydd wedi cael gwasanaeth arbennig o wael.
  2. O fis Gorffennaf 2006 ymlaen, ni dyllent barhau i fynnu taliadau gan ddefnyddwyr lle nad ydynt wedi rhoi bil i gwsmer am ddwy flynedd. O fis Gorffennaf 2007 dylai’r cyfnod hwn leihau i flwyddyn.
  3. Erbyn mis Gorffennaf 2006 rhaid iddynt arolygu amodau a thelerau’r cytundebau a gynigir ganddynt i ddefnyddwyr er mwyn gwneud yn siwr eu bod mor syml â phosibl, eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ar hawliau defnyddwyr a’u bod heb duedd o blaid y cyflenwyr.

Bydd golwg ar ynni, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel llygad barcud nwy a thrydan, yn monitro cynnydd y cyflenwyr wrth weithredu’r gofyniadau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag ysbryd a llythyren y feirniadaeth er lles defnyddwyr.

Yn ol i'r top ^