Gyda phrisiau nwy a thrydan yn saethu i fyny, mae’n bwysig ichi ddod o hyd i’r fargen orau yn seiliedig ar eich anghenion chi. Mae llawer o bobl, yn enwedig defnyddwyr hyn, yn gyndyn o newid cyflenwyr ac, yn anorfod, maent yn talu ym mhell y tu hwnt am eu nwy a thrydan. Mae Tîm Defnyddwyr Blaenoriaethol golwg ar ynn am leihau’r trafferth a gofid a chaiff pobl ynglyn â newid cyflenwyr. Byddant yn gwneud yr holl waith ichi, sef:
Y cyfan y mae rhaid ichi ei wneud yw galw Tîm Defnyddwyr Blaenoriaethol golwg ar ynni ar 0845 688 9594 neu e-bostiwch ( priority.consumers@energywatch.org.uk ) a byddwn yn gwneud y cyfan; ni allai fod yn haws, felly pam talu mwy pan nad oes rhaid?
...dyma gorff cenedlaethol sydd â chanolfannau cyngor lleol ar effeithiolrwydd ynni, ac sydd yn annog defnyddio ynni glanach, cynaliadwy ac effeithiolrwydd ynni. Mae cyngor amhleidiol ar gael yn rhad ac am ddim ar ei gwefan i’ch helpu chi i leihau biliau ac arbed ynni.
Mae hyn yn cynnwys pob agwedd o arbedion ynni gartref – gan gynnwys asesiad ynni gartref yn rhad ac am ddim wedi ei deilwra at eich anghenion – a’r wybodaeth ar y grantiau/cynigion sydd ar gael ar hyn o bryd am wella ynni gartref.
Cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor Effeithiolrwydd Ynni lleol ar Rhadffôn 0800-512-012
Energy Savings Trust (Head Office)
21 Dartmouth Street
London
SW1H 9BP
Gwefan: www.est.org.uk/myhome
...sydd yn gyfrifol am redeg Cynllun Ffrynt Cynnes a ariennir gan y llywodraeth. Gall defnyddwyr fuddio o grantiau hyd at £2,700, a all wneud eich cartref yn gynhesach, iachach a rhatach i’w gynhes.
Ac os nad ydych ar rwydwaith y prif bibellau nwy, mae’n bosibl y byddwch yn ddilys am grant o hyd at £4,000 i osod system gwres canolog ar sail olew.
Os ydych yn berchennog eich cartref neu yn rhentio gan landlord preifat ac yn cael buddion yn gysylltiedig ag incwm, oedran neu anabledd, mae’n bosibl y bydd hawl gennych chi i’r canlynol:
Cysylltwch ag EAGA on Yn rhad ac am Rhadffon 0800 316 6011
EAGA
Scottish Life House
Archbold Terrace
Newcastle upon Tyne
NE2 1BR
Gwefan: www.eagagroup.com
...mae’r rhain ar gael mewn llawer o ardaloedd, gan gynnig cyngor offer yn rhad ac am ddim ar grantiau effeithiolrwydd ynni ar ben y rhai a gynnigir gan EAGA – Ffrynt Cynnes. Gallant hefyd drefnu i’r gwaith gael ei wneud. Cewch ddarganfod a oes Grwp Gwres Fforddadwy yn eich ardal trwy ffonio’ch cyngor lleol (gofynnwch am eu hadran cyngor ynni).
Gwefan: http://www.direct.gov.uk/Dl1/Directories/LocalCouncils/fs/en
...sydd ag ymrwymiad i waredu tlodi tanwydd. Maent yn gweithio gyda chynghorau lleol a llawer o gyrff partneriaethol eraill. Maent hefyd yn gyfrifol am oruchwylio a gweinyddu’r Cynllun Cylch Cynnes.
Sefydlwyd Cylchoedd Cynnes mewn ardaloedd penodol i helpu cartrefi sydd ddim yn gallu fforddio digon o wres ar gyfer iechyd a chysur. Gelwir y rhain yn gartrefi “tlodi tanwydd”. Cewch mwy o wybodaeth am hyn ar wefan Cylchoedd Cynnes.
Yn amodol ar gyllid, gall Cylchoedd Cynnes ddarparu gwaith ynysu yn rhad ac am ddim neu am gost isel ar gyfer y canlynol:
Bydd gwaith gwres canolog ar gael yn rhad ac am ddim, yn amodol ar angen, lleoliad a’r cyllid sydd ar gael am y canlynol:
Mae cyngor a chefnogaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar fudd-daliadau i helpu cynyddu incwm teuluol hefyd, ynghyd â chyngor ynni yn rhad ac am ddim i helpu arbed gwario teuluol anorfod. I deuluoedd sydd ddim yn ddilys ar gyfer camau rhad ac am ddim, gall Cylchoedd Cynnes gynnig gostyngiadau sylweddol ar ynysu. Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Dwyrain Llundain, Gateshead, Hull, Newham, Newcastle, Northumberland, Sandwell a Stoke. Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd hyn, ffoniwch 0191 269 6113 am fanylion cysylltu.
Gwefan: www.warmzones.co.uk
... mae grant ynysu o hyd at £500 o gamau ar gael i berchnogion eu cartrefi a thenantiaid eiddo a rentir yn breifat sydd yn derbyn budd-daliadau. Os nad ydych yn derbyn buddion, ond yn 60 oed neu’n hyn, ac yn berchennog cartref neu’n denant eiddo a rentir yn breifat, mae’n bosibl y byddwch chwithau hefyd yn ddilys ar gyfer hyd at £125 am ynysu, didosi rhag drafftiau, bylbiau golau ynni isel ac yn y blaen.
Warm Deal
Freepost
SCO4421
Edinburgh
EH6 0BR
Rhif ffôn: 0800 072 0150