Jump to Page Content
CHWILIO:

Storïau bywyd go iawn

Yn wynebu datgysylltu

Yn 82 oed, wynebodd Mrs. Banbridge fil ynni anferth a datgysylltiad. Roedd hi’n byw mewn llety cymdeithas tai mewn ardal “dim nwy” ac felly’n dibynnu ar drydan yn unig am wres. Yn anffodus, gosodwyd eu gwresogyddion storio’n anghywir, a esgorodd ar y bil uchel a’r bygythiad o ddatgysylltu.

Cysylltwyd â golwg ar ynni gan swyddog ynni’r gymdeithas tai. Trefnodd golwg ar ynni i Mrs. Banbridge gael gwyriad ynni cartref yn rhad ac am ddim. Gan weithio â’r Gymdeithas Tai, cafodd Mrs. Banbridge system gwresogi newydd, ynysu, siaced tanc dwr poeth ac offer rheoli i’w helpu defnyddio eu pheiriannau. Cysylltodd golwg ar ynni â’i chyflenwyr a lleihawyd ei bil gan £160.00. Roedd cael y gefnogaeth yn gymaint o ryddhad i Mrs. Banbridge, a olygodd iddi osgoi datgysylltu, arbed arian a gwella effeithiolrwydd ynni ei chartref.

Mae gwres yn hanfodol

Mae Fatuma Kayembe’n fam sengl â phedwar o blant ifanc. Mae hithau a thri o’i phlant yn dioddef gan Anemia Crymangell.Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt gael gwres yn barhaus – arweiniodd yr angen hwn at fil ynni amcangyfrifol o £3,000 i Fatuma.

Cysylltodd golwg ar ynni â’i chyflenwyr ac pan archwilwyd ei bil, gwelwyd mai £1,400 oedd y bil mewn gwirionedd. Gan weithio â chynghorydd ariannol y Gymdeithas Crymangell, llwyddasom drefnu i ymddiriedolaeth grant ynni dalu ei biliau, gwella ei defnydd o ynni, a fydd yn y pen draw yn lleihau ei chostau ynni. Bellach mae Fatuma a’i theulu yn fwy ymwybodol o sut i arbed arian ac ynni, tra’n dal i gadw’n gynnes yn eu cartref.

Ad-uno Mam a’i baban

I fam ifanc Kathryn Smith, roedd yn dorgalonnus pan ail-dderbyniwyd Morgan, ei mab pump wythnos oed, i’r ysbyty, gan yr oedd ei thy’n rhy oer.

Roedd yn ffodus bod ei gweithwraig iechyd cymunedol yn gwybod lle yn union i droi am help – cysylltodd â Thîm Defnyddwyr Blaenoriaethol golwg ar ynni.

Dywed Michael Temple, aelod o’r tîm: “Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cynghori Kathryn na allai Morgan ddychwelyd adref nes y gosodwyd system gwresogi go iawn.”

Ffoniodd Michael ei gyswllt yn EAGA i weld beth oedd yn digwydd ac i amlygu difrifoldeb y sefyllfa. Esgorodd hyn ar ymweliad ar unwaith gan beiriannydd i asesu’r addasrwydd am system gwresogi olew. Ond daeth newyddion drwg – doedd y ty ddim yn addas ar gyfer system gwres canolog olew. Roedd Kathryn yn ddilys ar gyfer grant am osod gwresgyddion storio trydan, ond nid ioedd hyn yn ymarferol oherwydd y costau rhedeg a’r angen am gadw’r cartref yn gynnes bob amser ar gyfer ei baban Morgan.

Dywed Michael: "Es i’n ôl yn syth i EAGA i ofyn iddynt ail-asesu achos ac amgylchiadau Kathryn i weld beth fyddai’n bosibl, a dyna beth a wnaethant.

"Y canlyniad oedd i EAGA gytuno i osod system gwresogi LPG. Er i hyn gostio mwy na’r lwfans grant o £4,000, teimlodd EAGA bod y trawma a’r straen a gafodd Kathryn yn fwy na chyfiawnhau’r gefnogaeth ychwanegol. Cyfunwyd Mam a baban yn fuan."