-
Prynir tua 60% o’r holl ynni a ddefnyddir gan fusnesau trwy dryddion
cyfryngol a elwir yn frocwyr, ymgynghorwyr, asiantau a chynghorwyr.
-
Gallant gynnig ystod o wasanaethau, o’ch gwahodd i arwyddo â chyflenwyr
penodol, trwy gael dyfynbrisiau, asesu cynigion ac argymell cyflenwr trwy
ddarparu cyngor a chefnogaeth barhaus gyda biliau, anghydfodau, adnewyddu
cytundebau ac yn y blaen.
-
Prif fuddion defnyddio trydyddion yw mynediad i sgiliau a gwybodaeth
nad sydd o bosibl gennych, a mynediad i fathau arbennig o gytundebau na
fydd o bosibl ar gael i chi. Ond gweithio ar eich rhan chi y mae’r trydydd,
a dylech wneud yn siwr eich bod yn deall ymlaen llaw yr holl ymrwymiadau
a wneir ar eich rhan chi ac yn cytuno iddynt.
-
Mae trydyddion cyfryngol yn cynnig gwasanaeth pwysig i fusnesau, ond
ni chynhwysir eu gweithgareddau yn y rheolaeth o ynni. Gall ansawdd a dibynadwyedd
gwasanaethau a ddarperir gan drydyddion amrywio a ni fydd trydydd sydd yn
gweithredu’n gyfrifol er eich budd yn gwrthwynebu ichi geisio diogelu’ch
ochr chi o’r perthynas fel ag a awgrymir yma. Yn union fel sydd yn wir am
eich cyflenwad o ynni, dylech sicrhau eich bod yn deall y telerau a gynigir
cyn ichi gytuno, a dylech ystyried cymryd cyngor cyfreithiol arbenigol lle
bo angen.
-
I gael y fargen orau i’ch busnes gan drydyddion cyfryngol, mae golwg
ar ynni’n argymell ichi ddilyn y canllawiau cyffredinol hyn:
-
Galwyr di-rybudd - Os byddwch yn cael galwad di-rybudd gan rywun sydd
yn addo arbed arian i chi neu yn bygwth datgysylltiad os na fyddwch yn
rhoi manylion dros y ffôn, dylech sylweddoli y gall y galwad ddod
o asiantaeth werthu sydd yn cael comisiwn am gael cwsmeriaid newydd i
arwyddo. Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith y gall addewidion llafar fod
yn ymrwymiadau cyfreithiol, ac nid oes unrhyw reidrwydd arnoch chi i roi
unrhyw wybodaeth na chytuno i unrhyw beth nes eich bod yn sicr bod y cynnig
yn un dilys ac er eich budd chi.
-
Mae’r rhan fwyaf o gytundebau cyflenwad busnes am gyfnod sefydlog,
fel arfer rhwng blwyddyn a phum mlynedd, ac fel arfer ni chewch adael
y cytundeb yn gynnar heb dalu cosb.
-
“Gwasanaethau yn rhad ac am ddim” - Os bydd y trydydd yn cynnig ei
wasanaethau yn rhad ac am ddim neu yn dweud y bydd ffi’n daladwy, yn y
pendraw byddwch yn debygol o dalu am ei wasanaethau beth bynnag trwy’r
cytundeb cyflenwi.
-
Addewidion pris - Nid yw prisiau fel arfer yn gysylltiedig yn agos
â maint y tanwydd a ddefnyddir, a rhaid dangos unrhyw addewidion
o arbed arian a’u cadarnhau yn ysgrifenedig, fel arfer data defnydd go
iawn, cyn y gwneir unrhyw ymrwymiadau. Yn yr un modd, nid oes gan addewid
i leihau eich taliad debyd uniongyrchol misol ynddo’i hunan ddim i’w wneud
â lleihau eich costau ynni.
-
Dylech ddisgwyl i unrhyw drydydd yr ydych yn ei ddefnyddio sydd yn ddifrifol
am gynnig cyngor a gwasanaethau annibynnol i’ch helpu chi i gymharu cynigion
ac arwyddo cytundeb fod yn barod i wneud y canlynol:
-
deall eich busnes, dangos ei gymwysterau a phrofiad sydd yn berthnasol
i’ch amgylchiadau, argymell yr ateb iawn ar gyfer eich anghenion busnes
a rhoi ichi enwau canolwyr y gallwch ofyn iddynt am eu barn ohono.
-
nodi’n ysgrifenedig amrediad y gwasanaethau sydd i’w darparu a sail
unrhyw daliadau sydd i’w gwneud gennych chi.
-
datgelu pob ffynhonell taliad a buddion eraill sydd i’w derbyn o
dan y cytundeb am gael eich busnes – os ydych chi’n talu a’r trydydd
hefyd yn cael comisiwn gan y cyflenwyr, dylech benderfynu a ydyw hyn
yn rhesymol ai peidio.
-
rhoi argymhelliad ysgrifenedig o ba gynnig i’w derbyn, y rhesymau
am unrhyw benderfyniad i beidio â gofyn i gyflenwyr penodol i
dendro, cymhariaeth â chynigion eraill a aseswyd ac amlinelliad
o’r peryglon a’r costau’n gysylltiedig â’r math o gytundeb a argymhellir,
gan gynnwys cyfnod y cytundeb, y cyfnod o rybudd angenrheidiol am derfynu,
unrhyw dâl am derfynu’n gynnar a’r potensial am unrhyw daliadau
diwedd cytundeb e.e. ar gyfer gorddefnydd neu ddefnydd isel.
datgelu hunaniaeth y cyflenwyr a ddewisir a pheidio â chyfyngu’ch
rhyddid i gysylltu â’r cyflenwyr yn uniongyrchol
-
caniatáu ichi derfynu’r perthynas unrhyw bryd, gan roi rhybudd
rhesymol, os na fyddwch yn hapus â’r gwasanaethau a ddarperir.
-
rhoi’r hawl ichi weld anfoneb y cyflenwyr ar gais, fel y bydd modd
ichi sicrhau y credydir eich taliadau yn erbyn eich defnydd a bod yn
ymwybodol o unrhyw daliadau comisiwn neu ostyngiadau.