Jump to Page Content
CHWILIO:
Helping Business

Cysylltiadau defnyddiol

Bydd manylion cysylltu gwasanaeth cwsmeriaid y cyflenwyr ar ohebaeth, biliau a thaflenni gwerthu. Mae gwefan golwg ar ynni hefyd yn rhoi rhestr gynhwysfawr o fanylion cysylltu cyflenwyr busnes.

Hefyd cewch holi’r darparwyr gwasanaeth cofrestru’r diwydiant yn uniogyrchol (Xoserve neu unrhyw Gludwyr Nwy arall a MPAS am drydan) i weld data a ddelir am eich anheddau chi.

Xoserve (Cyfeirif Pwynt Mesurydd (CPM/MPR) neu Linell Gymorth Rhif M)
fydd yn rhoi manylion o’ch cyflenwyr nwy presennol.

http://www.xoserve.com
0870 608 1524

Cludwyr Nwy Annibynnol(CNA/iGT)
Os bydd eich CPM/MPRN Nwy yn dechrau â 74 neu 75, mae eich cyflenwad ar rhwydwaith CNA/iGT.
Mae Energylinx yn darparu rhestr o Gludwyr Nwy Annibynnol â manylion o’u rhifau CPM/ MPRN a manylion cysylltu.

http://www.energylinx.co.uk/independent_gas_transporters.htm
Fel arall, cewch ffonio 0870 160 0229 i ddarganfod pwy yw eich cludwyr nwy.

Cymdeithas Manwerthu Ynni
http://www.energy-retail.org.uk
Mae’r Gymdeithas Manwerthu Ynni yn cynrychioli cyflenwyr yn y farchnad ynni gystadleuol yn y DU. Mae eu gwefan yn cynnwys manylion y Rhaglen Trosglwyddo Cwsmeriaid a ffurfiwyd i arolygu a gwella’r broses trosglwyddo ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, golwg ar ynni ac Ofgem.

Y Fforwm Nwy
http://www.gasforum.co.uk
Mae’r Fforwm Nwy yn cynnwys y rhan fwyaf o gludwyr a chyflenwyr nwy pwysicaf y DG (‘cludwyr nwy’ yw‘r cwmnïau sydd yn rheoli nwy o fewnforio yn y terfynfeydd ar y traethau i bwynt y cyflenwi ar anheddau’r cwsmer, ac mae “cyflenwyr nwy" yn berchnogion y nwy ac yn ei werthu i’r cwsmer). Mae eu gwefan yn cynnwys manylion eu gweithgareddau presennol yn y diwydiant nwy.

OFGEM
http://www.ofgem.gov.uk
Ofgem yw rheoleithwyr diwydiannau nwy a thrydan Prydain. Ei orchwyl yw diogelu buddion y defnyddwyr a’u hyrwyddo trwy ddarparu cystadleuaeth, gan gynnwys trwy reoleithu lle bydd angen. Nid yw’n trin cwynion unigolion; dylid cyfeirio’r rhain i olwg ar ynni.

Cymdeithas Gweithredwyr Mesuryddion
http://www.meteroperators.org.uk
Mae’r Gymdeithas Gweithredwyr Mesuryddion yn gymdeithas fasnach ar gyfer gweithredwyr mesuryddion. Mae Gweithredwr Mesuryddion (GM/MO) yn gwmni sydd â chytundeb â chwsmer neu gyflenwyr i osod a chynnal mesuryddion am fesur llifiant ynni yn y marchnadoedd trydan neu nwy.