Jump to Page Content
CHWILIO:
Helping Business

Gweithgaredd gwerthiannau ynni


Bydd golwg ar ynni’n cael cwynion yn rheolaidd am y ffordd y gwerthwyd cytundeb cyflenwad ynni neu am y cytundeb ei hunan. Dyma rai o’r testunau mwyaf cyffredin:

  • Mae’r defnyddiwr am fanteisio ar well fargen ond mae’n ynghlwm wrth gytundeb cyfnod hir.
  • Ar ôl ichi symud i anheddau newydd, bydd rhywun yn ffonio i fygwth torri’r cyflenwad os na fydd y tenant neu’r preswylwr newydd yn rhoi manylion banc ac yn arwyddo cytundeb fel cwsmer newydd.
  • Daw rhywun at y defnyddiwr i addo dod o hyd i’r fargen orau, ond ar ôl i’r defnyddiwr drosglwyddo mae’n ymddangos nad yw’r fargen fel ag a addawyd.
  • Trosglwyddwyd y defnyddiwr i gyflenwyr newydd heb arwyddo dim, ond cafodd alwad ffôn gan rywun yn cynnig bargen dda a rhoi rhywfaint o wybodaeth ond ni chytunwyd ar ddim.

Cyn ichi roi unrhyw wybodaeth i unrhyw un a fydd yn ffonio neu’n galw i’ch gwahodd i newid cyflenwyr, neu yn bendant cyn cytuno i unrhyw beth o gwbl, dylech ddarganfod pwy sydd yn galw a nodi enw, cyfeiriad a manylion cysylltu’r bobl yr ydych yn siarad â nhw a’r corff maent yn ei gynrychioli. Gall fod gan gyflenwyr ynni ond gall fod hefyd gan asiant neu frociwr sydd yn ceisio cael eich busnes.

Dylech fod yn ymwybodol nad oes gan ddefnyddiwr busnes yr un hawliau a diogelwch â defnyddiwr cartref e.e.

  • Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol am gyfnod pwyllo ar ôl arwyddo cytundeb cyflenwi – unwaith y byddwch wedi cytuno byddwch yn ymrwymiedig.
  • Nid oes unrhyw gymariaethau pris ar gyfer cyflenwadau busnes – rhaid ichi wneud eich ymchwil eich hunan, neu ddefnyddio brociwr neu asiant y gallwch ymddiried ynddo i’ch helpu i ddewis.
  • Mae’r rhan fwyaf o gytundebau cyflenwi busnes am gyfnod sefydlog, fel arfer rhwng blwyddyn a phum mlynedd ac fel arfer ni chewch adael y cytundeb yn gynnar heb dalu cosb.
  • Nid oes unrhyw gôd ymddygiad sydd yn rheoleithu gweithgaredd gwerthu cyflenwyr neu drydyddion – sydd yn gosod mwy byth o bwysau arnoch chi i ddarllen a deall cyn ichi arwyddo.
  • O dan amgylchiadau penodol, os byddwch yn cytuno i newid cyflenwyr ar y ffôn neu yn ystod sgwrs, gall hynny ffurfio cytundeb cyfreithiol hyd yn oed heb ichi arwyddo dim.

Dylech drafod eich anghenion defnyddio gyda darpar gyflenwyr cyn ichi wneud ymrwymiad. Mae gan gyflenwyr ystod o wahanol fathau o gytundebau a chyfraddau a dylech sicrhau bod y cytundeb y byddwch yn cytuno iddo yn cwrdd â’ch anghenion e.e. os ydych yn bwriadu newid (cynyddu neu leihau) eich defnydd, gweithredu mesurau arbed ynni neu os ydych yn ansicr ynglyn ag am faint y byddwch ar yr anheddau.


Chi sydd â’r dewis o gyflenwyr. Peidiwch ag ildio i wasgiadau neu fygythiadau. Os ydych yn ddrwgdybus ynglyn ag onestrwydd neu hunaniaeth y galwr, nodwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y galwr, rhowch derfyn ar y sgwrs a ffoniwch golwg ar ynni i siarad ag un o’n cynghorwyr.