Mae’r corff hwn yn cynnig cyngor ymarferol yn rhad ac am ddim i gyrff yn y
sectorau busnes a chyhoeddus er mwyn helpu ymladd newid hinsoddol trwy dorri
gollyngiadau carbon.
Gallai’r rhan fwyaf o fusnesau dorri eu biliau gwres, golau a phwer gan 10%
neu fwy yn gyflym heb unrhyw fuddsoddiad cyfalaf. Gydag ychydig o fuddsoddiad
mae arbedion o 20% yn ymarferol ac mae rhai cwmnïau wedi haneru eu costau
ynni hyd yn oed, ac o’r herwydd maent wedi tyfu i fod yn fwy proffidiol a chystadleuol,
Yn ogystal â’r cyngor cyffredinol a ddangosir yma, gall yr Ymddiriedolaeth
Carbon eich helpu i ganolbwyntio ar arbedion sydd yn benodol i’ch sector chi
a rhoi rhagor o help dros y llinell gymorth, y we neu ymweliadau safle.
Trowch y goleuadau i ffwrdd mewn ystafelloedd gwag a choridorau - yn enwedig ar ddiwedd dydd. Gall hyn arbed hyd at 15% o’ch bil am oleuadau. Defnyddiwch dim ond y golau y mae ei angen - ydy’r goleuadau’n rhy llachar mewn coridorau? Tynnwch yr offer bob yn ail, neu trowch nhw i ffwrdd. Defnyddiwch olau dydd - yn rhad ac am ddim - felly cadwch ffenestri’n lân ac yn glir. Glanhewch oleuadau bob blwyddyn - mae baw yn lleihau effeithiolrwydd goleuadau, gan annog pobl i droi mwy o oleuadau ymlaen.
Rhy boeth? - gosodwch y thermostat ar 19°C - bydd costau’n codi gan 8% am bob cynnydd o 1°C. Peidiwch â gwresogi mannau sydd heb ddefnydd - cewch gosod tymheredd llai mewn ystordai, coridorau a mannau lle mae gwaith corfforol trwm. Trowch y gwres i lawr dros y pentwythnos ac yn ystod gwyliau. Cadwch reidiadduron yn glir - peidiwch â rhoi dodrefn o’u blaen - mae hyn yn lleihau effeithiolrwydd a chynhyrchedd. Gwnewch yn siwr bod pob thermostat allan o ddrafftiau ac i ffwrdd o fannau poeth neu oer. Cadwch ffenestri ar gau yn ystod tywydd oer - os yw’r staff yn rhy boeth, trowch y gwres i lawr.
'Os na allwch ei fesur, ni ellwch ei reoli’ - archwiliwch eich defnydd o drydan, nwy ac olew yn rheolaidd, a gwnewch yn siwr bod eich biliau’n ymwneud â’r hyn y byddwch yn ei ddefnyddio yn hytrach nag amcangyfrifon. Holwch eich cydweithwyr am eu barn ar wastraff ynni, ac am eu syniadau ar arbed ynni.