Mae gan olwg ar ynni dîm o gynghorwyr defnyddwyr arbenigol wedi eu neilltuo i gynnig gwasanaeth i ddefnyddwyr busnes. Gall y tîm godi cwyn ar eich rhan gyda’ch cyflenwyr, ar yr amod eich bod eisoes wedi codi’r testun â’ch cyflenwyr eich hunan heb gael ymateb boddhaol o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Os rhowch gymaint â phosibl o fanylion i ni am amgylchiadau eich cwyn, byddwn yn gallu codi’r mater yn gyflymach gyda’r cwmni.
Bydd golwg ar ynni yn ystyried beth fyddai’n ganlyniad rhesymol i’r defnyddiwr, a bydd yn dilyn unrhyw achos mor bell ag y mae’n credu sydd yn rhesymol. Os na fyddwch yn fodlon â’r canlyniad a gynigir, mae golwg ar ynni’n cadw’r hawl i atal yr archwiliad a chau’r achos.
Nid oes gan olwg ar ynni bwerau gorfodi ar ran defnyddwyr, ond bydd yn gofyn i’r cyflenwyr ymateb i ffeithiau’r achos fel ag a ddarperir, ac fel arfer mae’n llwyddo wrth gael cwmnïau i adnabod a chywiro gwallau.
Nid yw golwg ar ynni’n darparu cyngor cyfreithiol na gwasanaeth cyfryngu. Ni fydd golwg ar ynni yn dilyn achosion lle mae cwsmer busnes
Mae golwg ar ynni’n annog defnyddwyr busnes i ddilyn unrhyw hawliadau o dan gytundebau cyflenwi ynni yn union yr un modd ag y byddent mewn unrhyw drefniant masnachol arall. Nid yw Ofgem, rheoleithwyr y diwydiant, yn awdurdoaethol mwn perthnasau masnachol rhwng cyflenwyr a defnyddwyr ac mae’r cytundebau hyn yn amodol ar ddeddfwriaeth a chyfraith achosion, fel sydd yn wir am unrhyw berthynas masnachol arall. Er y bydd golwg ar ynni’n archwilio hawliadau ac yn trafod â chwmnïau ar ran defnyddwyr, os na fydd hyn yn arwain at ganlyniad boddhaol, ac ymddengys bod yn cwmni’n ddim yn iawn, dylai defnyddwyr busnes fod yn barod i gymryd cyngor cyfreithiol annibynnol a dilyn llwybrau cyfreithiol os oes ganddynt yr adnoddau i wneud hynny.