Byddwch o bosibl yn chwilio am gyflenwyr newydd am nifer o resymau:
Dilynwch ein camau
I newid eich cyflenwyr ynni. Dylech roi sylw arbennig i delerau’ch cytundeb presennol sydd yn ymwneud â chyfnodau rhybudd a therfynu, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth ynglyn â’ch defnydd, safleoedd a mesuryddion yn gywir.
Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith bod rhai cyflenwyr yn cynnig gwasanaeth arlein am arwyddo neu adnewyddu cytundebau.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael galwadau ffôn yn cynnig rhoi dyfynbris
am eich cyflenwad, ond dylech gofio bob amser bod gennych chi’r hawl i wneud
dewis heb gael eich cyflyru gan weithgaredd gwerthu.
Mae golwg ar ynni’n argymell y dylech chi, neu’r trydydd cyfryngol sydd yn gweithredu
ar eich rhan chi, gysylltu â nifer o gyflenwyr er mwyn cael dyfynbrisiau
am gymharu. Dylech baratoi disgrifiad cryno o’ch anghenion cyflenwad, gan ddefnyddio’r
wybodaeth ar eich bil (fel isod) a’i defnyddio i gysylltu â chyflenwyr.
Ond bydd rhaid ichi fod yn ofalus os amcangyfrif oedd eich bil diweddaraf, gan
y gallai’ch ffigurau am ddefnydd fod yn anghywir. Ni all golwg ar ynni argymell
cyflenwyr ( manylion
cysylltu cyflenwyr)
Enw, cyfeiriad a chôd post yr anheddau