Jump to Page Content
CHWILIO:
Helping Business

Newid cyflenwyr

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon ar y cyd gan golwg ar ynni a Chymdeithas Manwerthwyr Ynni i’ch helpu chi i ddeall y broses o newid cyflenwyr ynni, gwerthfawrogi’r rhan bwysig yr ydych chi’n ei chwarae a sut y gallwch helpu’ch hunan os aiff rhywbeth o’i le.

Dylai’r broses newid cyflenwyr ynni weithredu’n llyfn, ond gallwch helpu trwy fod mewn modd i roi gwybodaeth gywir i’ch cyflenwyr, yn benodol:

  • Faint o ynni y byddwch yn ei ddefnyddio
  • Telerau’r cytundeb sydd gennych chi â’ch cyflenwyr presennol (a darparwyr gwasanaethau mesuryddion, os yn briodol)
  • Manylion yr anheddau a ddelir gennych, gan gynnwys unrhyw drefniadau mesuryddion arbennig

Dylai’ch cyflenwyr presennol fod mewn modd i’ch helpu chi â’r wybodaeth hon os nad yw ar gael gennych chi. Yn gyffredinol,dylech godi unrhyw ymholiadau sydd gennych chi ynglŷn â’ch cyflenwyr newydd .